Dyddiad yr Adroddiad

18/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202408740

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms E am safon y gofal a ddarparwyd i’w merch sy’n oedolyn, Ms F, gan un o dimau iechyd meddwl cymunedol y Bwrdd Iechyd (“y CMHT”).

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon:

a) A oedd y dull seicoleg wrth ymgymryd â therapi amlygiad yn briodol.

b) A oedd y penderfyniad i beidio â threfnu asesiad ar gyfer ADHD/ASD yn briodol.

c) A oedd y penderfyniad i ryddhau Ms F o’r CMHT yn briodol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y dull therapi seicolegol yn unol ag arfer clinigol a chanllawiau priodol, yn seiliedig ar symptomau cyflwyno Ms F. Ni chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod tystiolaeth y dylai’r CMHT fod wedi gwneud atgyfeiriad am asesiad ASD, a chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn. O ran y penderfyniad i ryddhau Ms F o wasanaethau’r CMHT, nid oedd hwn yn benderfyniad afresymol yn glinigol. Fodd bynnag, roedd rhai diffygion yn y ffordd y cyrhaeddwyd ef. Yn benodol, roedd diffyg ymgynghori â Ms F ac absenoldeb gwybodaeth glir am y llwybr atgyfeirio ar gyfer asesiad ASD. Cadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn yn rhannol i’r graddau hynny.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon a oedd yn cynnwys ymddiheuriad i Ms F am fethu â’i hatgyfeirio am asesiad ASD ac i wneud yr atgyfeiriad hwnnw os oedd Ms F yn dal i ddymuno hynny. Cytunodd hefyd i adolygu ei bolisïau ASD/ADHD a’i lwybrau atgyfeirio i sicrhau eu bod yn nodi, ac yn meddu ar lwybrau clir i atgyfeirio, achosion ar gyfer asesiad ADHD/ASD yn unol â chanllawiau NICE (CG142) a’r Safon Ansawdd.