Cwynodd Mrs A am y camau a gymrodd Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ynglŷn â phryderon diogelu’n ymwneud â’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn ar y cyfan yn fanwl a thrylwyr. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod ei fethiannau, wedi ymddiheuro lle’r oedd yn briodol ac wedi adnabod camau dysgu priodol i wella ei wasanaeth. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi sylw priodol i bryderon Mrs A ynghylch gwrthdaro budd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 3 wythnos, yn rhoi ymateb diweddar i gŵyn Mrs A, yn talu sylw i’r dysgu a wnaed o’i phryder ynghylch gwrthdaro budd, ac i roi copi o’r adroddiad diogelu terfynol i Mrs A.