Cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i gwyn yr oedd wedi’i chyflwyno iddo dros 6 mis yn ôl, a bod hyn wedi effeithio ar ei anghenion gofal parhaus.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio i’r gwyn ac ymateb o fewn yr amserlen berthnasol, a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu esboniad ac ymddiheuriad i Mr A am yr oedi wrth ymateb i’r gwyn, ac i anfon ei ymateb i’r gwyn o fewn 30 diwrnod gwaith.