Dyddiad yr Adroddiad

20/08/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202603531

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Dr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Rhagfyr 2025.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Dr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 4 wythnos, yn ymddiheuro a rhoi eglurhad i Dr B am yr oedi, yn ymateb i’w chŵyn ac yn cynnig talu iawndal o £150 i Dr B i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon.