Dyddiad yr Adroddiad

13/08/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202602291

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B na dderbyniodd ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei chyn-bartner Mr C.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi diweddaru Ms B, nad oedd wedi ymateb i’w chŵyn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn pythefnos, yn ymddiheuro wrth Ms B am yr oedi ac yn rhoi eglurhad ac, o fewn 8 wythnos, y byddai’n ymateb i’w chŵyn.