Dyddiad yr Adroddiad

20/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202602923

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’w chŵyn a wnaeth hi iddo ym mis Rhagfyr 2025.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms B, ei fod wedi methu â chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms B gydag ymddiheuriad am yr oedi ac i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.