Dyddiad yr Adroddiad

10/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202601728

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn am ei diweddar frawd, ac nad oedd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi yn ystod ei ymchwiliad.

Canfu’r Ombwdsmon fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mrs A ac nad oedd wedi cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn 30 diwrnod gwaith, ddarparu ymddiheuriad ac esboniad i Mrs A am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.