Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ad-dalu’r swm y cytunwyd arno yn ei ymateb i’r gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod gan y Bwrdd Iechyd i ad-dalu Miss A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad ac esboniad i Miss A am yr oedi, ac ad-dalu’r swm y cytunwyd arno o fewn 3 wythnos.