Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Awst 2025 a’i fod wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms A a’i fod wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig, o fewn 3 wythnos, ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn a chynnig iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi, y diffyg diweddariadau ac am yr amser a’r drafferth i Ms A wrth wneud cwyn i’r Ombwdsmon.