Dyddiad yr Adroddiad

16/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202509940

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mai 2025.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb terfynol i Ms A i’w chŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi’r ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 7 wythnos, ymddiheuro a rhoi esboniad am yr oedi, a chynnig taliad iawndal o £150 i gydnabod yr oedi.