Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddo gan y Bwrdd Iechyd rhwng Mawrth a Medi 2024 ac am ei ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr A, nid oedd wedi rhoi gwybodaeth eglur iddo am yr offer cyfathrebu sydd ar gael i helpu cleifion. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a gytunodd i gymryd y camau canlynol i ddatrys y gŵyn i osgoi cynnal ymchwiliad ffurfiol.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig eglurhad i Mr A ynghyd â gwybodaeth am yr offer cyfathrebu sydd ar gael, fel y pasbort cleifion, i helpu cleifion i gael gafael ar ofal iechyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn o fewn 4 wythnos.