Dyddiad yr Adroddiad

04/14/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202300420

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i gŵyn a wnaeth erbyn y dyddiad y cytunwyd arno mewn datrysiad cynnar blaenorol gyda swyddfa’r Ombwdsmon. Roedd hefyd wedi methu â’r dyddiad cau estynedig ar gyfer ymateb i Mr A.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi annerbyniol pellach wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i Mr A a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol iddo.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr A am yr oedi pellach, talu swm pellach o £100 i wneud iawn am hyn a darparu ymateb i’r gŵyn o fewn 2 wythnos. Derbyniodd yr Ombwdsmon y camau hyn yn hytrach na chyflwyno Adroddiad Arbennig.