Cwynodd Mrs B bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd hi iddo dros 6 mis yn ôl.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag anfon ymateb i gŵyn Mrs B. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs B i ymddiheuro am yr oedi ac am y diffyg diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon; i gynnig talu £75 i Mrs B i gydnabod yr amser a’r trafferth a gymerodd wrth gyflwyno cŵyn i’r Ombwdsmon; ac i anfon ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.