Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ateb ei bryderon ynghylch y posibilrwydd y gellid bod wedi osgoi ei ddiagnosis o Thrombosis Gwythiennau Dwfn (“DVT”) a’i feddyginiaeth gydol oes pe bai asesiad risg DVT wedi’i gynnal a phe bai wedi cael gwybodaeth am ei risgiau a’i symptomau.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr A, ei fod wedi methu ag ymateb i’w gwestiynau ynghylch y posibilrwydd y gellid bod wedi osgoi’r diagnosis pe bai wedi cael yr wybodaeth berthnasol. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr A, o fewn 6 wythnos, i ateb y pryderon sydd heb eu datrys.