Dyddiad yr Adroddiad

23/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202510733

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Mai 2025, ar ran ei wraig.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi’n sylweddol cyn ymateb i gŵyn Mr B. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B a’i wraig. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymrwymo i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn wythnos, i ymddiheuro am yr oedi ac i gynnig iawndal o £150 i gydnabod yr amser a’r drafferth o gyflwyno’r gŵyn.