Dyddiad yr Adroddiad

28/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202510579

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’r pryderon a godwyd ganddi yn ei chŵyn ym mis Mehefin 2025.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan Ms B. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B, o fewn 6 wythnos, am fethu â mynd i’r afael â’i phryderon a chyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn sy’n mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd.