Cwynodd Miss B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag anfon ei ymateb i gŵyn at ei Gweithiwr Cymdeithasol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag anfon ei ymateb i gŵyn at Weithiwr Cymdeithasol Miss B, er ei fod wedi cael caniatâd i wneud hynny. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Yn dilyn ymholiadau’r Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, rhoddodd ei ymateb i’r gŵyn i’r Gweithiwr Cymdeithasol. Felly, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss B, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am yr oedi cyn rhoi ei ymateb i’r gŵyn i’r Gweithiwr Cymdeithasol, ac i roi esboniad am yr oedi.