Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg wedi methu â darparu ymateb ffurfiol i’w chŵyn ffurfiol, a wnaeth hi iddo ym mis Ebrill 2025.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb anffurfiol i Ms B, er gwaethaf i Ms B ei gwneud yn glir ei bod wedi gwneud cwyn ffurfiol, ei fod wedi methu â darparu ymateb yn unol â’r weithdrefn ‘Gweithio i Wella’. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms B gydag ymddiheuriad am yr oedi cyn cyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn, darparu ymddiheuriad pellach am y diffyg diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon, cynnig talu £75 mewn iawndal a chyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.