Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag ymateb i’w gŵyn.
Casglodd yr Ombwdsmon er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w gŵyn, nad oedd wedi diweddaru Mr B yn rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mr B am yr oedi’n ymateb i’w gŵyn, i ymddiheuro hefyd am beidio ei ddiweddaru’n rheolaidd ac ystyrlon, a chynnig talu iawndal o £75 i Mr B i gydnabod ei amser a’i drafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon, o fewn pedair wythnos.