Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu â darparu llythyr canlyniad ar ôl cyfarfod a recordiad iddi.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ei lythyr canlyniad ar ôl y cyfarfod a’i fod wedi cynnig ymddiheuriad ac esboniad i Mrs A am yr oedi. Fodd bynnag, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi copi o recordiad y cyfarfod i Mrs A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi copi o recordiad y cyfarfod i Mrs A o fewn 3 wythnos.