Dyddiad yr Adroddiad

14/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202510092

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu â chynnal y llawdriniaeth gywir ar ei wddf.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr B, nad oedd wedi cofnodi ei bryderon fel cwyn ffurfiol o dan ei drefn gwyno Gweithio i Wella. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr B i ymddiheuro am y methiannau ac i ddarparu ymateb PTR ffurfiol i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.