Dyddiad yr Adroddiad

17/09/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202603453

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A oherwydd nad oedd hi’n fodlon ar yr amser aros a brofodd ar gyfer llawdriniaeth ar y goden fustl. Roedd hi hefyd yn anfodlon ar y datganiadau croes gan y Bwrdd Iechyd ynghylch sganiau uwchsain.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi mynd i’r afael yn llawn â’r materion a godwyd yng nghŵyn Mrs A. Nid oedd yr ymateb yn egluro pam y bu oedi rhwng y cyfeiriad a wnaed yn 2024 a’r adeg y gwelwyd Mrs A mewn clinig yn 2025. Ymhellach, nid oedd yr ymateb yn ymdrin â phryderon Mrs A ynghylch y gwahaniaeth rhwng canlyniadau sganiau uwchsain a gafwyd yn 2024 a 2026. Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai Mrs A gael ymateb i’r pryderon hyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i Mrs A – o fewn mis – ynghylch ei phryderon am yr oedi rhwng gwneud y cyfeiriad a’i hapwyntiad, yn ogystal ag ymateb i’w phryderon ynghylch y sganiau uwchsain a oedd yn croes-ddweud ei gilydd.