Cwynodd Mrs A nad oedd wedi cael ymateb llawn i’w chwyn a gyflwynwyd i’r Bwrdd Iechyd ym mis Awst 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth a diweddariadau i Mrs A am ei ymchwiliad i’w chwyn. Fodd bynnag, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb llawn i Mrs A, ac nid oedd wedi cadarnhau canlyniad ei ystyriaeth o atebolrwydd cymhwysol o fewn cyfnod rhesymol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb llawn i gŵyn Mrs A, gan gynnwys cadarnhad o ganlyniad y Bwrdd Iechyd o ran ystyried atebolrwydd cymhwysol. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Mrs A ac i roi esboniad am yr oedi cyn darparu ymateb llawn i’w chwyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau hyn cyn pen 4 wythnos.