Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi mynd i’r afael â’i bryderon yn ei ymateb.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan Mr A. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb pellach a chynnig ymddiheuriad am fethu ag ymdrin â phryderon Mr A o fewn 4 wythnos.