Dyddiad yr Adroddiad

22/09/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202604059

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs P fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd iddo dros 6 mis yn ôl.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag anfon ymateb at Mrs P. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs P. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chfodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs P gydag ymddiheuriad ac eglurhad am y methiant i ymateb i’r gŵyn; i gynnig talu £150 i Mrs P i gydnabod yr amser a’r trafferth a gymerodd wrth gyflwyno cŵyn i’r Ombwdsmon; ac i anfon ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.