Mae Ms Draper yn cwyno bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio i’w symptomau yn briodol, ac egluro a oedd ei gofal yn cael ei reoli yn unol â chanllawiau NICE. Mae hi hefyd yn pryderu na chafodd y posibilrwydd o ganser gynaecolegol ei asesu’n ddigonol. Mae Ms Draper wedi egluro bod ei chwyn yn ymwneud â rheoli ei gofal yn unol â chanllawiau NICE ac arfer gorau, yn ogystal â’r diffyg cyfathrebu a thryloywder o ran y broses o’i chyfeirio, ymchwilio iddi, a’i thrin.