Dyddiad yr Adroddiad

20/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202602126

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i’w chŵyn a wnaeth hi iddo ym mis Tachwedd 2025.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon, ac nad oedd ymateb i’r gŵyn wedi’i gyhoeddi. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms B gydag ymddiheuriad am yr oedi a’r methiant i ddarparu adroddiadau rheolaidd ac ystyrlon, cynnig iawndal o £75 a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.