Cwynodd Miss B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Mai 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnig ymddiheuriad am yr oedi, ond ei fod wedi methu â rhoi ymateb i gŵyn Miss B adeg cwyno i’r swyddfa hon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad pellach am yr oedi, o fewn 2 wythnos, a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn a chynnig iawndal o £75 i Miss B i gydnabod ei hamser a’i thrafferth wrth gwyno i’r Ombwdsmon.