Dyddiad yr Adroddiad

30/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202510769

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi am gynnydd ei chŵyn ac nad oedd wedi cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Ms A, a’i fod wedi methu â rhoi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 4 wythnos, yn rhoi ymddiheuriad ac esboniad i Ms A am yr oedi, yn cynnig iawndal o £100 i gydnabod yr amser a’r drafferth o wneud ei chŵyn i’r Ombwdsmon ac yn cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.