Dyddiad yr Adroddiad

04/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202410100

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs G nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i’r gŵyn a wnaethpwyd ganddi ym mis Gorffennaf 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i gŵyn Mrs G ac nad oedd wedi cael ei diweddaru, a bod hynny wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs G. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs G ac i egluro’r rheswm am yr oedi ac am beidio ei diweddaru, ac i gynnig iawndal o £250 iddi, o fewn
4 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyhoeddi ymateb i gŵyn Mrs G o fewn 10 wythnos i ddyddiad y penderfyniad hwn.