Dyddiad yr Adroddiad

02/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202409909

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ganddi ym mis Awst 2024.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i anfon llythyr o ymddiheuriad ac esboniad i Ms X o fewn 2 wythnos, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn.