Dyddiad yr Adroddiad

13/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202407989

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss Q fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mehefin 2024.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cryn dipyn cyn rhoi ymateb i Miss Q. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss Q. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss Q, iawndal o £150 i gydnabod yr oedi, ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.