Cwynodd Mr C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mai 2024.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cryn dipyn cyn rhoi ymateb i Mr C. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr C. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr C, iawndal o £150 i gydnabod yr oedi, ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 8 wythnos.