Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi
ymateb yn derfynol i’w chŵyn am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar fam.
Casglodd yr Ombwdsmon fod pryderon wedi eu lleisio i’r Bwrdd Iechyd
dros 12 mis yn ôl a’i fod wedi methu ag ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs A oherwydd cwestiynau na chawsant eu hateb a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb yn
ffurfiol i’r gŵyn gan gynnwys ymddiheuro ac eglurhad am yr oedi i Mrs A a chynnig talu iawndal ariannol o £150 iddi i gydnabod yr oedi, o fewn 4 wythnos.