Cwynodd Mr A nad oedd wedi derbyn ymateb, o fewn 6 mis, i gŵyn a wnaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei dad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon er bod y Bwrdd Iechyd wedi diweddaru Mr A, nad oedd wedi ymateb i’w gŵyn na rhoi gwybod iddo pryd y gallai ddisgwyl ymateb. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn un mis, yn cysylltu â Mr A i roi gwybod iddo pryd y gallai ddisgwyl ymateb.