Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd”), ym mis Medi 2025, wedi adnabod y gallai fod wedi torri ei ddyletswydd gofal tuag ati yn 2024 a bod angen iddo ystyried ei hachos ymhellach drwy’r broses Gwneud Iawn. Dywedodd er bod ei heiriolwr wedi gofyn, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ei diweddaru na chadarnhau pryd y byddai’n derbyn ei ymateb terfynol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi diweddaru Ms A ar gynnydd ei hachos na wedi rhoi gwybod iddi pryd y gallai ddisgwyl derbyn ymateb terfynol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwilio.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn pythefnos, yn ymddiheuro wrth Ms A, yn egluro’r oedi a’r diffyg diweddaru, yn talu iawndal o £250 ac yn rhoi ymateb terfynol i’r broses Gwneud Iawn.