Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Medi 2025 ynghylch y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w dad.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos a chynnwys cynnig iawndal o £50 i gydnabod yr amser a’r drafferth.