Cwynodd Miss B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Gorffennaf 2025.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss B a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss B, o fewn 6 wythnos, i ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn, i ymddiheuro ymhellach am y diffyg diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon, ac i gynnig iawndal o £75 i Miss B. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 8 wythnos.