Cwynodd Ms A am y gofal a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) ym mis Rhagfyr 2025.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms A yng ngham Datrysiad Cynnar y broses Gweithio i Wella (“PTR”), nad oedd wedi cyhoeddi ymateb ffurfiol i’w phryderon pan oedd yn dal yn anhapus â’r canlyniad. Ni welodd yr Ombwdsmon dystiolaeth ychwaith fod y Bwrdd Iechyd wedi cofnodi canlyniad y Datrysiad Cynnar mewn templed ffurfiol, fel sy’n ofynnol gan y canllawiau Gweithio i Wella. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb ffurfiol i Ms A, yn unol â’r canllawiau Gweithio i Wella. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i atgoffa ei staff i gyfeirio achwynwyr yn ôl at y Bwrdd Iechyd am ymateb ffurfiol os byddant yn dal yn anfodlon ar ôl i gŵyn gael ei chau drwy Ddatrysiad Cynnar. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i atgoffa staff i sicrhau bod cwynion sy’n cael eu cau drwy Ddatrysiad Cynnar yn cael eu cofnodi mewn templed ffurfiol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau hyn o fewn un mis i benderfyniad yr Ombwdsmon.