Dyddiad yr Adroddiad

02/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202508405

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi tybio i ddechrau bod y gŵyn yn ymwneud â deintydd mab Mr A ac felly wedi’i chyfeirio at y deintydd ar gyfer ymchwiliad ffurfiol. Mae bellach wedi cydnabod ei fod yn ymwneud â’r driniaeth ddeintyddol a gafwyd tra yn yr ysbyty. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gofnodi cwyn ffurfiol a’i chydnabod o fewn 1 wythnos. Dylai hefyd gynnwys ymddiheuriad ac esboniad ynghylch pam na wnaeth ymchwilio’n ffurfiol i’w bryderon.