Dyddiad yr Adroddiad

25/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202509082

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gyda’r Bwrdd Iechyd yn ymateb i gŵyn Ms A a’i fod wedi methu â’i diweddaru’n rheolaidd. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms A, o fewn 1 wythnos, i ymddiheuro am yr oedi. Cytunodd hefyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, neu gyhoeddi llythyr diweddaru os na chwblheir yr ymchwiliad i’r gŵyn.