Dyddiad yr Adroddiad

04/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202508293

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’w llythyr dyddiedig 15 Tachwedd 2025 lle’r oedd yn gofyn am eglurhad am yr ymateb a gafodd i’w chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i Mrs A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs A gydag ymateb i’w llythyr, o fewn 2 o wythnos, ac y dylai’r llythyr hwnnw hefyd gynnwys ymddiheuriad am beidio ymateb.