Dyddiad yr Adroddiad

08/24/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202204616

Canlyniad

Dim Angen Gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) wedi postio sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol a oedd yn honni amhriodoldeb ar ran aelodau’r Cyngor.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri paragraffau 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion o gyfarfodydd perthnasol y Cyngor.  Darparodd yr achwynydd sgrinluniau o sylwadau a bostiwyd gan yr Aelod.  Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld.  Cyfwelwyd â’r Aelod.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi postio sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol a oedd yn honni y gallai aelodau’r Cyngor fod wedi gweithredu’n amhriodol wrth ddyfarnu contract.  Roedd y sylwadau’n weladwy i aelodau’r cyhoedd.  Canfu’r Ombwdsmon fod y sylwadau’n ddifrifol ac yn awgrymu amhriodoldeb a bod ganddynt y potensial i effeithio ar enw da’r Cyngor a hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol.  O ganlyniad, canfu’r Ombwdsmon y gellid yn rhesymol ystyried bod ymddygiad yr Aelod yn dwyn anfri ar y Cyngor a’i fod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.

Wrth ystyried a oedd angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, ystyriodd yr Ombwdsmon esboniad yr Aelod am ei sylwadau sef ei fod yn dweud bod ganddo bryderon gwirioneddol ynghylch sut y dyfarnwyd y contract gan fod y Cyngor wedi mynd yn groes i gyngor ei Glerc.  Nododd yr Ombwdsmon fod cofnodion cyfarfod y Cyngor, lle dyfarnwyd y contract perthnasol, yn nodi nad oedd penderfyniad y Cyngor yn cyd-fynd â’r cyngor penodol a roddwyd gan y Clerc.  Canfu’r Ombwdsmon ei bod yn ymddangos bod esboniad yr Aelod am ei bryderon wedi’i seilio ar yr hyn yr oedd yn ei gredu ar y pryd ac felly’n dod o fewn terfynau rhyddid mynegiant.  Ni nododd yr Aelod y pryderon a oedd ganddo ond eglurodd nad oedd yn gwybod sut i wneud hynny.  Canfu’r Ombwdsmon fod yr Aelod yn aelod newydd a dibrofiad o’r Cyngor nad oedd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad.  O ystyried hyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod esboniad yr Aelod dros beidio â rhoi gwybod am ei bryder yn ymddangos yn gredadwy.  Eglurodd yr Aelod hefyd fod y sylwadau a bostiodd yn ymateb i sylwadau a wnaed o natur debyg gan aelod arall o’r Cyngor a oedd yn gwneud honiadau tebyg.  Er bod y sgwrs wedi’i dileu ar gyfryngau cymdeithasol ac felly nid oedd yn bosibl ei gweld bellach, roedd y sgrinluniau a oedd ar gael yn dangos bod rhan o’r cyfnewid ar goll.  Cadarnhaodd yr aelod arall o’r Cyngor, y cynhaliwyd y drafodaeth ag ef, nad oedd y sgrinluniau yn dangos y sgwrs lawn.  O ystyried hyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod esboniad yr Aelod yn fwy hygrededd i egluro pam y postiodd y sylwadau y cwynwyd yn eu cylch.

Canfu’r Ombwdsmon fod lliniariad helaeth i’r sylwadau a wnaed gan yr Aelod, yn enwedig methiant yr achwynydd i ddarparu sgrinluniau llawn o’r sgwrs a fyddai wedi rhoi ei chyd-destun llawn.  O ganlyniad, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cymryd camau ymchwiliol pellach er budd y cyhoedd.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.