Honnwyd bod yr Aelod wedi bwlio a chodi ofn ar yr Achwynydd pan oedd yn cael ei chyflogi gan y Cyngor.
Honnwyd yn wreiddiol bod yr Aelod, yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 16 Mai 2023, wedi cysylltu â’r Achwynydd, wedi ei dal yng nghornel Siambr y Cyngor ac wedi gweiddi arni hi a’r Clerc (“y Cyn Glerc”), gan eu cyhuddo o llygredigaeth.
Honnwyd wedyn bod yr Aelod yn ymweld yn aml â swyddfa’r Cyngor a’i faes parcio i godi ofn yr Achwynydd. Honnwyd bod yr Aelod wedi tynnu lluniau yn y maes parcio ac wedi parcio ei gar wrth ffenestr swyddfa’r staff. Dywedodd yr Achwynydd fod yr Aelod, ar un achlysur, wedi gyrru ei gar tuag ati’n gyflym, cyn gyrru allan o’r maes parcio.
Estynnwyd yr ymchwiliad i gynnwys honiad bod yr Aelod wedi gwneud ystum corfforol fygythiol tuag at yr Achwynydd y tu allan i Siambr y Cyngor ar 1 Tachwedd 2023.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylid ystyried paragraffau canlynol y Cod Ymddygiad (“y Cod”):
• 4(b) – Rhaid i aelodau ddangos parch ac ystyriaeth at eraill.
• 4(c) – Rhaid i aelodau beidio â bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un.
• 6(1)(a) – Rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu ar eu hawdurdod.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys copi o gofnodion perthnasol y cyfarfod. Cafwyd gwybodaeth hefyd gan yr Heddlu. Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld. Cafodd yr Aelod hefyd ei gyfweld.
Canfu’r Ombwdsmon y gall ymddygiad yr Aelod yn ystod y cyfarfod ar 16 Mawrth 2023 awgrymu ei fod wedi torri amodau paragraff 4(b) a 4(c) o’r Cod.
Nid oedd digon o dystiolaeth i awgrymu bod ymweliadau’r Aelod â swyddfa’r Cyngor a’r maes parcio yn gyfystyr â thorri’r Cod.
Canfuwyd nad oedd ymddygiad yr Aelod ar 1 Tachwedd 2023 yn ddigon difrifol i fod yn gyfystyr â thorri’r Cod.
Wrth ystyried a oedd ymddygiad yr Aelod yn y cyfarfod yn teilyngu gweithredu pellach, ystyriwyd effaith ymddygiad yr Aelod ar yr Achwynydd. Ystyriwyd hefyd brofiad sylweddol yr Aelod, yn ogystal â’i fwriad a’i fethiant dilynol i ddangos dealltwriaeth o effaith ei ymddygiad.
Rhoddodd yr Ombwdsmon ystyriaeth hefyd i oedran, iechyd a faint o amser oedd wedi mynd heibio ers y digwyddiad. Nodwyd hefyd benderfyniad y Pwyllgor Safonau ynglŷn â honiad tebyg a ddigwyddodd tua’r un pryd, lle cafodd yr Aelod gerydd. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y byddai atgyfeiriad pellach i’r Pwyllgor Safonau yn debygol o arwain at ganlyniad tebyg ac o’r herwydd, nid oedd yn cael ei ystyried er budd y cyhoedd i wneud hynny.
Fodd bynnag, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Aelod gael hyfforddiant gloywi ar y Cod o fewn 6 mis i ddyddiad y penderfyniad. Awgrymodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Aelod fyfyrio ar y Cod a chanllawiau’r Ombwdsmon yn ofalus iawn, er mwyn cryfhau ei ddealltwriaeth o’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau etholedig. Pe bai unrhyw bryderon eraill tebyg yn cael eu cyflwyno i’r swyddfa hon yn y dyfodol, sy’n cyrraedd y trothwy ar gyfer ymchwiliad gan yr Ombwdsmon, penderfynwyd y byddai’r canfyddiad hwn yn cael ei ystyried.