Dyddiad yr Adroddiad

31/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Neyland

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202302731, 202304678, 202307936 a 202306825

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniasom nifer o gwynion bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Neyland (“y Cyngor”) wedi torri Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (“y Cod”).

Honodd yr achwynwyr fod yr Aelod wedi methu â thrin y Clerc, y cyn-Glerc a chynghorwyr eraill gyda ystyriaeth a pharch; ei fod wedi bwlio ac aflonyddu ar y Clerc a chynghorwyr; ac iddo wneud datganiadau maleisus a chwerw yn gyhoeddus am gynghorwyr a’r cyn-Glerc.

Digwyddodd yr achosion o bryder mewn cyfarfodydd Cyngor, mewn amryw o ohebiaeth e-bost ac mewn datganiad cyhoeddus a gyhoeddwyd gan yr Aelod.

Casglom amryw o ddogfennau gan gynnwys cofnodion, recordiadau a thrawsgrifiadau o gyfarfodydd y Cyngor, ynghyd â chopïau o e-byst a gohebiaeth. Cawsom ddatganiadau tystion gan y cwynwyr ac aelodau’r Cyngor ac fe gyfwelsom yr Aelod.

Canfuwyd nifer o achosion o ymddygiad tuag at y Clerc, y cyn-Glerc a chynghorwyr eraill a oedd yn annerbyniol ac yn groes i’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau mewn swydd. Ymddiswyddodd yr Aelod o’r Cyngor ychydig cyn i ni gwblhau ein hymchwiliad. Cyfeiriasom ein hymchwiliad at Banel Dyfarnu Cymru (PDC) i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.

Canfu’r tribiwnlys fod ymddygiad yr Aelod ar y pryd, mewn nifer o achosion ar wahân, wedi torri’r Cod Ymddygiad. Canfu’r tribiwnlys fod yr Aelod wedi methu â thrin eraill gyda pharch ac ystyriaeth; ei fod wedi bwlio ac aflonyddu ar eraill; ei fod wedi gwneud cwynion maleisus, chwerw neu ffug am eraill; ac iddo ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried yn dwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod.

Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad, drwy benderfyniad unfrydol, y dylid anghymhwyso’r cyn-Aelod rhag gweithredu fel aelod o unrhyw awdurdod perthnasol am gyfnod o 3 blynedd.

Gellir gweld penderfyniad llawn y PDC ar ei wefan yma.