Honnwyd bod y Cyn-aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) yn ystod cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 (“y Cyfarfod”). Honnodd achwynydd A (202307874) ac Achwynydd B (202309450) fod y Cyn-aelod wedi methu â dilyn cyngor Un Llais Cymru (sefydliad sy’n cynrychioli cynghorau tref a chymuned yng Nghymru) drwy drafod cwyn a wnaed i’r Ombwdsmon nad oedd ar yr agenda, wedi methu â gwrando ar y Cadeirydd er iddi ofyn iddo roi’r gorau i siarad a gadael y Cyfarfod, ac wedi gwneud sylwadau amhriodol am y Cadeirydd yn ystod adran agored o’r Cyfarfod. Yn ogystal, honnodd Achwynydd B fod y Cyn-aelod, yn ystod y Cyfarfod, wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol am y Clerc a’r gŵyn i’r Ombwdsmon.
Ystyriodd ein hymchwiliad a oedd y Cyn-aelod wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn y Cod:
• 4(b) – Rhaid i chi ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill
• 4(c) – Rhaid i chi beidio â bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un
• 5(a) – Rhaid i chi beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol
• 6(1)(a) – Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eich swydd neu’ch awdurdod.
Cafwyd yr holl wybodaeth berthnasol gan y Cyngor. Cafodd tystion, gan gynnwys yr Achwynyddion, y Clerc ac aelodau eraill a oedd yn bresennol yn y Cyfarfod eu cyfweld. Cafodd y Cyn-aelod ei gyfweld hefyd ac ystyriwyd ei ymatebion ysgrifenedig i’r cwynion (cyn ac ar ôl y cyfweliad).
Canfu’r Ombwdsmon fod y dystiolaeth yn awgrymu bod y Cyn-aelod yn debygol o fod wedi dangos ymddygiad amharchus tuag at y Cadeirydd ac wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol yn y Cyfarfod, a oedd yn awgrymu torri amodau paragraff 4(b) – amharchu, 5(a) – torri cyfrinachedd a 6(1)(a) – anfri, y Cod. Fodd bynnag, nid oedd ymddygiad y Cyn Aelod yn cyfiawnhau canfyddiad o dan baragraff 4(c) – bwlio, o’r Cod.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach er budd y cyhoedd. Nid oedd y tor-cyfrinachedd yn achos difrifol o dorri’r Cod. Yn ystod camau olaf ein hymchwiliad, ymddiswyddodd y Cyn-aelod, a ddaeth â’i sefyllfa o ymddiriedaeth a dylanwad yn y Cyngor i ben.
Pe bai’r Cyn Aelod wedi parhau i wasanaethu ar y Cyngor, ac oni bai am yr effaith bersonol a gafodd yr ymchwiliadau ar ei iechyd a’i lesiant, ar sail yr wybodaeth roeddem wedi’i chasglu, mae’n debygol y byddem wedi cyfeirio ymddygiad y Cyn Aelod at Bwyllgor Safonau i’w benderfynu. Dywedwyd wrth y Cyn Aelod, pe bai’n dod yn aelod unwaith eto, ac os daw pryderon ymddygiad tebyg i law, y gellid ystyried y cwynion hyn wrth benderfynu ar ein
cam gweithredu.