Honnwyd bod negeseuon e-bost gan Gyn Aelod at Glerc y Cyngor ar 13 Medi, 16 Medi ac 8 Hydref 2024 (“y negeseuon e-bost”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol ymchwilio ac y dylid ystyried y paragraffau canlynol o’r Cod:
• 4(b) – Rhaid dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.
• 4(c) – Rhaid peidio â bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un.
• 6(1)(a) – Rhaid peidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eich swydd neu’ch awdurdod.
Cafwyd yr holl wybodaeth berthnasol gan y Cyngor. Cafodd yr Achwynydd a’r Clerc eu cyfweld. Cafodd y Cyn-aelod ei gyfweld hefyd ac ystyriwyd ei ymatebion ysgrifenedig i’r gŵyn (cyn ac ar ôl y cyfweliad).
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd modd cyfiawnhau’r ymyrraeth â hawliau Rhyddid Mynegiant y Cyn Aelod yn yr achos hwn, ac felly nid oedd modd i’r negeseuon e-bost dorri’r Cod.