Honnwyd bod e-bost gan Gyn Aelod at y Clerc ar 11 Medi 2024 (“yr E-bost”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Ystyriodd ein hymchwiliad a oedd y Cyn-aelod wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn y Cod:
• 4(b) – Rhaid i chi ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill
• 4(c) – Rhaid i chi beidio â bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un
• 6(1)(a) – Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eich swydd neu’ch awdurdod. Cafwyd yr holl wybodaeth berthnasol gan y Cyngor. Cafodd tystion, gan gynnwys yr Achwynydd a’r Clerc eu cyfweld. Cafodd y Cyn-aelod ei gyfweld hefyd ac ystyriwyd ei ymatebion ysgrifenedig i’r gŵyn (cyn ac ar ôl y cyfweliad).
Canfu’r Ombwdsmon fod yr e-bost yn awgrymu bod y Cod wedi’i dorri o dan baragraff 4(b) – amharchu a 4(c) – bwlio, ond nid oedd yn cyfiawnhau canfyddiad o dan baragraff 6(1)(a) – anfri, y Cod.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach er budd y cyhoedd. Yn ystod camau olaf ein hymchwiliad, ymddiswyddodd y Cyn-aelod, a ddaeth â’i sefyllfa o ymddiriedaeth a dylanwad yn y Cyngor i ben.
Pe bai’r Cyn Aelod wedi parhau i wasanaethu ar y Cyngor, ac oni bai am yr effaith bersonol a gafodd yr ymchwiliad ar ei iechyd a’i lesiant, ar sail yr wybodaeth roeddem wedi’i chasglu, mae’n debygol y byddem wedi cyfeirio ymddygiad y Cyn Aelod at Bwyllgor Safonau i’w benderfynu. Dywedwyd wrth y Cyn Aelod, pe bai’n dod yn aelod unwaith eto, ac os daw pryderon ymddygiad tebyg i law, y gellid ystyried y cwynion hyn wrth benderfynu ar ein
cam gweithredu.