Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Dinas Casnewydd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd fod yr Aelod, yn ystod galwad ffôn i Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Cyngor, wedi gwneud sylwadau gwahaniaethol i un o weithwyr y Cyngor ynghylch y ffordd yr oedd y gweithiwr yn rheoli’r alwad.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau canlynol yn y Cod Ymddygiad:
- 4(a) – Rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal, waeth beth fo’u rhywedd, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd.
- 4(b) – Rhaid i aelodau ddangos parch ac ystyriaeth at eraill.
- 6(1)(a) – Ni ddylai aelodau ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu ar eu hawdurdod.
Ystyriodd yr ymchwiliad wybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys recordiad o’r alwad ffôn. Cafwyd dau gyfrif tyst ac fe gafodd yr Aelod ei chyfweld. Cydnabu’r Aelod ei hymddygiad a dywedodd ei bod yn difaru’n fawr yr hyn a ddigwyddodd.
Ystyriwyd hawl yr Aelod i ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) a’r gyfraith achosion berthnasol drwy gydol yr ymchwiliad.
Canfu’r ymchwiliad, er bod gan aelodau ddyletswydd i gwestiynu a chraffu ar swyddogion, fod sylwadau’r Aelod i’r gweithiwr yn ddiangen ac yn wahaniaethol, a bod ganddynt y potensial i effeithio’n andwyol ar hawliau ac enw da’r gweithiwr mewn perthynas â’i gallu i gyflawni ei rôl a sicrwydd ei swydd.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod ymddygiad yr Aelod yn is na’r safonau a ddisgwylir gan aelodau etholedig ac yn awgrymu torri paragraffau 4(a) a 4(b) y Cod Ymddygiad. Daeth yr Ombwdsmon hefyd i’r casgliad nad oedd yr Aelod wedi gweithredu mewn ffordd a oedd yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) y Cod Ymddygiad.
Ein canfyddiad, o dan adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000, oedd y dylid cyfeirio ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Ddirprwy Swyddog Monitro Cyngor Dinas Casnewydd er mwyn iddo gael ei ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Canfu’r Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 4(b) a 4(c), a chanfuwyd hefyd ei bod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 6(1)(a) y Cod. Ei sancsiwn oedd ceryddu’r Aelod.
Mae’r penderfyniad hwn yn ddarostyngedig i apêl.