Dyddiad yr Adroddiad

10/08/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned y Clun a Melin-cwrt

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202302310

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn fod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned y Clun a Melin-cwrt (“y Cyngor Cymuned”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).

Honnwyd fod yr Aelod wedi gwneud sylw difrïol am yr Achwynydd wrth un o’i gwsmeriaid busnes. Honnwyd hefyd fod yr Aelod wedi ymddwyn mewn modd bygythiol ac ymosodol tuag at yr Achwynydd pan oedd yn bresennol mewn cyfarfod o’r Cyngor Cymuned.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod yr Aelod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth, a oedd yn awgrymu torri paragraff 4(b) o’r Cod. Nid oedd y dystiolaeth yn awgrymu bod ymddygiad bwlio nac aflonyddu wedi digwydd, yn unol â pharagraff 4(c) o’r Cod.

Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd y dylid cyfeirio adroddiad ein hymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot er mwyn iddo gael ei ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Canfu’r Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd gwahardd yr Aelod am gyfnod o 5 mis.

Mae’r penderfyniad hwn yn destun apêl.